Pyllau Hamdden Newydd
Merthyr Tudful

Croeso

Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT) a Lles Merthyr yn ymroddedig i wella iechyd a lles y gymuned leol.

Rydym yn falch o gyhoeddi ein bod yn y broses o ailgynllunio ein pyllau hamdden, gyda chynlluniau datgarboneiddio ar flaen y gad, yn dilyn cais am gymorth ar gyfer costau ailddatblygu gan Lywodraeth Cymru.

Mae gwaith ar y gweill i ddod â chyfleusterau nofio Canolfan Hamdden Merthyr Tudful yn ôl i ddefnydd cyhoeddus yn dilyn buddsoddiad o £6 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful. Dechreuodd y gwaith ym mis Tachwedd 2022 a disgwylir iddo bara tan dymor yr Hydref 2023.

Mae’r wefan hon yn rhoi gwybodaeth am y cynlluniau ar gyfer y datblygiadau a – gyda gobaith – bydd yn ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych.

Dyfodol Carbon-Isel

Mae CBSMT wedi penodi’r arbenigwyr datblygu hamdden blaenllaw Alliance Leisure Services Ltd. a Capita i ailgomisiynu’r tri phwll a gwella’r ystafelloedd newid ochr wlyb.

Mae Tîm Alliance wedi ystyried pob cyfle ar gyfer datgarboneiddio’r ganolfan hamdden ochr yn ochr ag ailgomisiynu’r pyllau nofio. Mae mesurau datgarboneiddio yn cynnwys gosod pympiau gwres ffynhonnell aer mwy effeithlon yn lle boeleri tanwydd nwy. Rhagwelir y bydd hyn yn lleihau allyriadau carbon 61%, gan greu dyfodol mwy cynaliadwy i’r ganolfan.

Nofio i Bawb

Bydd y datblygiad hamdden newydd yng Nghanolfan Hamdden Merthyr Tudful yn darparu gweithgareddau dŵr ar gyfer ystod eang o oedrannau a galluoedd. Mae dysgu nofio yn sgil bywyd hanfodol, ac mae nofio a gweithgareddau dyfrol eraill wedi’u profi i wella iechyd meddwl a lles corfforol pobl. Edrychwn ymlaen at gael darparu cyfleusterau dyfrol newydd sbon i’r gymuned leol eu mwynhau.

Mae’r cyfleusterau newydd yn cynnwys:

  • Prif bwll nofio (25m gyda chwe lôn)
  • Pwll dysgu
  • Pwll hamdden gydag ardal chwarae-â-dŵr rhyngweithiol
  • Cyfleusterau newid wedi’u hadnewyddu

Cadwch yn gyfredol

Dros y misoedd nesaf, byddwn yn rhannu’r cynnydd ar ddatblygiad y pyllau hamdden newydd ac edrychwn ymlaen at eich croesawu i ymweld unwaith y byddwn yn ailagor.

Bydd y wefan hon yn cael ei diweddaru’n rheolaidd felly dewch draw eto i gael y wybodaeth ddiweddaraf. Cadwch lygad ar ein tudalen diweddariadau i ddarllen y newyddion diweddaraf ac i ddarganfod pryd fydd y pyllau hamdden newydd yn agor!

Skip to content