Pyllau Hamdden Merthyr
Cynnig datblygu
Nofio i bawb
Pan fyddant wedi agor, bydd y cyfleusterau wedi’u hailgomisiynu yn darparu trigolion â phrif bwll chwe lôn 25m, pwll addysgu pwrpasol sy’n cynnig rhaglen addysg nofio lawn, a phwll hamdden gydag ardal chwarae-â-dŵr rhyngweithiol. Bydd y cyfleusterau newid hefyd yn cael eu diweddaru a’u hailgynllunio i wella profiad cyffredinol ymwelwyr.
Cewch weld ddetholiad o gynlluniau a delweddau o byllau hamdden newydd Merthyr isod – cliciwch ar y delweddau i’w mwyhau.
Sylwch fod rhai o’r delweddau a’r fideos hyn at ddibenion enghreifftiol yn unig.

Pwll Hamdden
Mae pwll hamdden newydd yn cael ei gynllunio i ddarparu profiadau synhwyraidd difyr i blant iau.
• Tynnu’r ffliwm presennol
• Darparu panel dŵr hynod ryngweithiol gyda’r nod o gynyddu hyder plant bach a phlant ifanc yn y dŵr gan ddefnyddio cyfuniad unigryw o nodweddion chwarae dŵr lefel uchel ac isel
Mae thema dreigiau yn cael ei harchwilio ar hyn o bryd, gyda rhai enghreifftiau isod: