Pyllau Hamdden Merthyr

Partneriaid a chyllido

Lles Merthyr

Mae LlesMerthyr yn ymddiriedolaeth elusennol a ffurfiwyd yn 2015 i reoli a datblygu’r cyfleusterau hamdden a diwylliannol ym Merthyr Tudful ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Arweinir LlesMerthyr gan y Prif Weithredwr Jane Sellwood, a bwrdd Ymddiriedolwyr o gefndiroedd amrywiol, pob un ohonynt wedi ymrwymo i sicrhau eu bod yn parhau i wella a datblygu ein cyfleusterau a’n gwasanaethau ar gyfer y gymuned leol.

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful (CBSMT)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful yw corff llywodraethu Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful. Gweledigaeth CBSMT yw i gryfhau safle Merthyr Tudful fel y ganolfan ranbarthol ar gyfer Blaenau’r Cymoedd, a bod yn lle i ymfalchïo ynddo, lle gall:

• Pobl ddysgu a datblygu sgiliau i gyflawni eu huchelgeisiau
• Pobl fyw, gweithio, a chael bywyd diogel, iach a chyflawn
• Pobl ymweld â hi, ei mwynhau, a dyfod

Alliance Leisure

Wedi’i sefydlu dros 22 mlynedd yn ôl, Alliance Leisure Services yw’r ‘Partner Datblygu’ mwyaf blaenllaw yn y diwydiant hamdden, sydd â phrofiad heb eu hail o gyflawni prosiectau, ar ôl cyflawni dros 220 o brosiectau a hwyluso buddsoddiad o dros £300m mewn cyfleusterau sector cyhoeddus, gyda phrosiectau’n amrywio mewn gwerth o £60,000 i dros £30,000,000.

Alliance Leisure yw’r partner cyflenwi penodedig ar gyfer Fframwaith Hamdden y DU a reolir gan Hamdden Sir Ddinbych.

Trawsnewid Trefi

Mae’r grant Trawsnewid Trefi ar gyfer prosiectau i ailddatblygu a gwella canol trefi neu’r ardaloedd cyfagos. Cyhoeddwyd y grant yn 2020 gyda £90 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol wedi’i ddyrannu fel rhan o ddull newydd Llywodraeth Cymru o drawsnewid canol trefi ledled y wlad.

Mae’r grant ar gael ar gyfer y canlynol:
• Datblygu eiddo gwag neu adfeiliedig nad ydynt yn cael eu defnyddio ddigon yn fusnesau, tai, canolfannau hamdden, eiddo masnachol neu gyfleusterau cymunedol
• Gwella golwg eiddo a/neu eu hail-lunio i’w gwneud yn fwy hyfyw
• Gwella adeiladau presennol drwy gyflwyno gwasanaethau a chysylltedd arloesol, fel band eang cyflym, a fydd yn denu busnesau

Salix

Mae Salix yn cefnogi gwelliannau effeithlonrwydd ynni a datgarboneiddio ar gyfer cyrff y sector cyhoeddus, megis awdurdodau lleol ac ymddiriedolaethau sefydledig y GIG, gan eu helpu i leihau allyriadau carbon yn unol â tharged sero net y llywodraeth ar gyfer 2030.

Mae Salix Finance yn cynnig benthyciadau di-log o 0% gyda thymor ad-dalu o 8 mlynedd fel arfer i ymgeiswyr llwyddiannus.

Skip to content