Mae gwaith ar y gweill i ddod â chyfleusterau nofio Canolfan Hamdden Merthyr Tudful yn ôl i ddefnydd cyhoeddus yn dilyn buddsoddiad o £6 miliwn gan Gyngor Bwrdeistref Merthyr Tudful.

Pan fyddant wedi agor, bydd y cyfleusterau wedi’u hailgomisiynu yn darparu trigolion â phrif bwll chwe lôn 25m, pwll addysgu pwrpasol sy’n cynnig rhaglen addysg nofio lawn, a phwll hamdden gydag ardal chwarae-â-dŵr rhyngweithiol. Bydd y cyfleusterau newid hefyd yn cael eu diweddaru a’u hailgynllunio i wella profiad cyffredinol ymwelwyr.

Dros y misoedd nesaf, bydd y cyngor yn rhannu’r cynlluniau a’r syniadau ar gyfer y pyllau hamdden gyda’r gymuned leol.

Fe welwch y newyddion a’r diweddaraf ar y datblygiad yma wrth i’r gwaith fynd rhagddo.